Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 3 Senedd a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 6 Hydref 2022
Amser:
10.15 -
13.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13149
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Sarah Murphy AS Vikki Howells AS (yn lle Jack Sargeant AS) Joyce Watson AS |
Tystion: |
Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Matt Downton, Llywodraeth Cymru Nick Wood, Llywodraeth Cymru Irfon Rees, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1 Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth yng Nghymru: Adroddiad monitro
1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad monitro.
1.2 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi adroddiadau monitro bob tymor.
2 Bil Iechyd Meddwl Drafft
2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyd-bwyllgor Senedd y DU ar y Bil Iechyd Meddwl Drafft.
3 Blaenraglen waith
3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith.
4 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
4.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
4.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AS; roedd Vikki Howells AS yn bresennol ar ei ran fel dirprwy.
4.3 Dywedodd Sarah Murphy ei bod yn aelod o UNSAIN Cymru a’r GMB.
4.4 Dywedodd Joyce Watson fod aelod o'r teulu yn aelod o'r Coleg Nyrsio Brenhinol.
5 Craffu cyffredinol ar waith Gweinidogion sy’n gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol: Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
5.1 Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ateb cwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar y Bil Iechyd Meddwl Drafft
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.2 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched a'r cynllun cysylltiedig
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched a'r cynllun cysylltiedig
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.4 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argymhellion pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud â gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.5 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud â gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.6 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Rhan 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017: asesiadau o’r effaith ar iechyd
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.7 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Rhan 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017: asesiadau o’r effaith ar iechyd
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.8 Llythyr gan Oxfam Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ynghylch Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Craffu cyffredinol ar waith Gweinidogion sy’n gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol: Trafod y dystiolaeth
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidogion yn dilyn y materion a godwyd yn ystod y sesiwn, neu’r materion heb eu cyrraedd.